Mae trydariad gan y cwmni Burger King ynglŷn â gwerthu ysgytlaeth wedi cael ei wahardd oherwydd ei fod “yn cyfiawnhau ac yn annog ymddygiad gwrth-gymdeithasol”.
Daw’r gwaharddiad ar ôl i ysgytlaeth, a chynnyrch llaeth eraill, gael eu taflu tros ffigyrau fel Nigel Farage a Stephen Yaxley-Lennon (‘Tommy Robinson’) yn ddiweddar.
Yn ei neges ar wefan Twitter, dywedodd Burger King: “Annwyl bobol yr Alban. Rydyn ni’n gwerthu ysgytlaeth trwy’r penwythnos cyfan. Mwynhewch.”
Roedd Burger King wedi cyhoeddi’r neges ar ôl i’r heddlu ofyn i un gangen McDonalds yng Nghaeredin i roi’r gorau i werthu ysgytlaeth am gyfnod ar drothwy ymweliad Nigel Farage â’r ddinas.
Yn yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA), mae wedi dod i’r casgliad bod y trydariad yn “anghyfrifol” ar ôl i 24 o bobol gwyno amdano.
Mae Burger King wedi mynnu mai neges “dafod yn y boch” a oedd ganddyn nhw