Mae grŵp newydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r nod o ddenu pobol ddi-Gymraeg at yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Mae English Welsh For Indy wedi cael ei sefydlu yn sgil cynnydd yn y diddordeb mewn Cymru annibynnol. Yn ôl pôl piniwn diweddar, byddai bron i chwarter poblogaeth Cymru yn pleidleisio o blaid annibyniaeth pe bai refferendwm yfory.

Mae cyfres o orymdeithiau annibyniaeth wedi cael eu cynnal yn ystod y misoedd diwethaf hefyd, gan ddenu miloedd o bobol i orymdeithio ar hyd strydoedd Caerdydd (Mai 11), Caernarfon (Gorffennaf 27) a Merthyr Tudful (Medi 7).

Yn ôl sefydlwyr English Welsh For Indy, sydd i’w gweld ar wefannau Facebook a Twitter, y nod yw hyrwyddo’r ymgyrch ymhlith y di-Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, gan chwalu ambell gamsyniad ynglŷn a’r mudiad annibyniaeth.

“Mae’r mudiad annibyniaeth weithiau yn cael ei labelu’n anghywir fel un ‘gwrth-Seisnig’,” meddai un neges ar Facebook.

“Os yw’r mudiad annibyniaeth yn mynd i lwyddo yng Nghymru, mae’n rhaid iddo ddenu’r nifer o bobol ddi-Gymraeg sy’n byw yng Nghymru.

“Bwriad y grŵp hwn yw gwneud y di-Gymraeg sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru yn fwy gweladwy, ac i ddadlau pam y dylai gweddill y bobol ddi-Gymraeg yng Nghymru gefnogi annibyniaeth.”