Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, wedi gwyrdroi’r penderfyniad ynglŷn â’r newyddiadurwraig, Naga Munchetty.

Roedd uned gwynion y gorfforaeth wedi dyfarnu bod cyflwynwraig y rhaglen BBC Breakfast wedi mynd yn groes i ganllawiau golygyddol pan feirniadodd sylwadau a wnaed gan Donald Trump.

Fe achosodd y penderfyniad ffrae fawr, gyda’r diddanwr Syr Lenny Henry a’r newyddiadurwr, Krishnan Guru-Murthy, ymhlith y rhai a feirniadodd y gorfforaeth am ei thriniaeth o Naga Munchetty.

Ond mewn e-bost at staff y BBC, dywedodd Tony Hall ei fod bellach wedi adolygu’r achos ei hun, cyn dod i’r penderfyniad na ddylai’r gŵyn yn erbyn sylwadau Naga Munchetty gael ei chadw.

Y sylwadau

Mewn rhifyn o BBC Breakfast ar Orffennaf 17, roedd y gyflwynwraig wedi ymateb ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau ddweud wrth Ddemocratiaid benywaidd i “fynd yn ôl” i’w gwledydd.

“Bob tro yr ydw i, fel dynes o liw, wedi cael rhywun yn dweud wrtha i i ddychwelyd i’r lle yr ydw i’n dod, mae hynny wedi ei wreiddio mewn hiliaeth,” meddai Naga Munchetty.

“Dydw i ddim yn cyhuddo unrhyw un o ddim byd yn fan hyn, ond rydych chi’n gwybod beth mae ambell ddywediad yn ei olygu.”

Aeth yn ei blaen wedyn i ddweud ei bod hi’n “hynod o grac bod dyn y safle honno yn meddwl ei bod hi’n iawn i wthio’r ffiniau trwy ddefnyddio ieithwedd o’r fath.”