Mae dyn 19 oed gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yng nghanol tref Merthyr Tudful nos Sadwrn (Medi 28) wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr tu allan i’r ganolfan yn Rhodfa De Clichy am 10.45yh nos Sadwrn.
Cafodd y cerddwr 18 oed ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful lle mae’n cael triniaeth am anafiadau difrifol.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu a nhw.