Fe allai’r cyflog byw gael ei godi i £10.50 yr awr o dan gynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Canghellor heddiw (dydd Llun, Medi 30).

Roedd Sajid Javid wedi bod yn ceisio tynnu sylw oddi ar yr honiadau am fywyd personol Boris Johnson.

Dywedodd y Canghellor fod ei gynllun “uchelgeisiol” yn rhoi codiad cyflog i bedwar miliwn o bobol. Fe fyddai hefyd yn gostwng y trothwy i bob gweithiwr dros 21 oed.

Ar hyn o bryd dim ond gweithwyr dros 25 oed sy’n cael derbyn y cyflog byw, sy’n £8.21. Mae’r rhai sy’n 24 oed ac yn is yn cael yr isafswm cyflog.

“Dros y pum mlynedd nesaf fe fyddwn ni’n gwneud y Deyrnas Unedig yn un o economïau cynta’r byd i ddod a diwedd i gyflogau isel yn gyfan gwbl,” meddai.

Dywedodd Sajid Javid wrth gynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion ei fod eisiau cyflwyno “degawd o adnewyddu” gan roi addewid i fuddsoddi mewn ffyrdd, bysys a band eang.

Mae hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i gyflwyno Papur Gwyn am ragor o ddatganoli yn Lloegr, gan ddweud bod y Llywodraeth eisiau rhoi mwy o bwerau lleol i bobol leol.

Daeth cyhoeddiadau’r Canghellor yn sgil honiadau am fywyd personol y Prif Weinidog sydd wedi taflu cysgod dros y gynhadledd. Bu’n rhaid i Boris Johnson wadu honiadau ei fod wedi cyffwrdd clun newyddiadurwraig o dan fwrdd yn ystod cinio preifat yn swyddfeydd The Spectator yn 1999. Mae hefyd wedi wynebu honiadau am ei berthynas gyda’r ddynes fusnes o’r Unol Daleithiau, Jennifer Arcuri pan oedd e’n faer Llundain.