Bydd canolfan ymchwil newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru gyda’r nod o “daflu goleuni” ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl pobol ifanc.

Bydd y ganolfan gwerth £10m – wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd – yn canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobol ifanc.

Yr elusen, Sefydliad Wolfson, sy’n ariannu’r ganolfan, a bydd ei holl ganfyddiadau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth rhwng prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ysgolion ledled Cymru.

Dywed Paul Rambottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson, mai “profiadau pobol ifanc fydd yn llywio ymchwil” y ganolfan.

Pum maes ymchwil

Bydd y ganolfan yn canolbwyntio ar y pum maes gwyddonol canlynol:

  • Dilyn plant er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu;
  • Ystyried rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobol ifanc;
  • Gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobol ifanc a theuluoedd sydd â rhiant yn dioddef o orbryder;
  • Ystyried rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol;
  • Cydweithio â Phrifysgol Abertawe er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o effaith problemau iechyd meddwl tymor hir.

Mae trefniadau ar y gweill hefyd i gynnig cyfleon i fyfyrwyr PhD trwy gyfrwng y ganolfan, yn ogystal â sefydlu sesiynau fydd yn cynnig hyfforddiant ym maes ymchwil iechyd meddwl pobol ifanc.

‘Gwella’r ddealltwriaeth’

Yn cyfarwyddo’r ganolfan newydd fydd yr Athro Frances Rice a’r Athro Stephan Collishaw o Brifysgol Caerdydd.

Dywed yr Athro Frances Rice: “Rydym yn gwybod na chaiff 75% o bobol ifanc sydd ag anhwylder gorbryder neu iselder gydnabyddiaeth o’u salwch nac unrhyw ymyrraeth ar ei gyfer. Mae’r effaith ar yr unigolyn ifanc, eu teuluoedd a’u cyfleoedd mewn bywyd yn gallu bod yn drychinebus.

“Dyna pam yr ydym mor falch, yn dilyn proses ddethol drylwyr, bod Sefydliad Wolfson wedi dewis gwneud buddsoddiad mor sylweddol i sefydlu Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

“Am y tro cyntaf, byddwn yn gallu dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd seiciatreg plant a phobol ifanc, geneteg, gwyddorau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru i daflu goleuni ar iechyd meddwl pobl ifanc a datblygu ymyraethau newydd a mawr eu hangen.”