Fe ddylai gofal cymdeithasol yng Nghymru fod yn rhad ac am ddim yn ôl yr angen, yn ôl comisiwn gofal a sefydlwyd gan Blaid Cymru.
Fe gafodd Comisiwn Gofal Plaid Cymru ei sefydlu y llynedd gyda’r nod o brofi pa mor bosib fyddai datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Yn ei adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Medi 30), mae’r comisiwn yn argymell y dylai gofal cymdeithasol yng Nghymru gael ei ariannu o’r pwrs cyhoeddus – fel y mae gofal iechyd.
Mae’n amcangyfrif mai’r gost o wneud gofal cymdeithasol am ddim yw £247m, sef tua 1.5% o wariant Llywodraeth Cymru.
Mae’r comisiwn hefyd yn credu bod angen cydraddoldeb cyflog rhwng meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac y dylid symud gweithwyr mewn gofal cymdeithasol i raddfeydd cyflog y Gwasanaeth Iechyd.
Newid y system
Mae disgwyl i Blaid Cymru ystyried gwneud y cynnig yn rhan o bolisi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2021.
Yn ôl yr Aelod Cynulliad, Helen Mary Jones, llefarydd Plaid Cymru ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd y polisi yn “‘cywiro anghyfiawnderau’ pobol â dementia sy’n gorfod gwerthu eu cartrefi i dalu am filiau.”
Mae hi hefyd yn nodi bod y system bresennol yn “aneffeithlon, anghynaliadwy ac yn creu’r cymhellion anghywir i ddarparwyr.”
Ychwanega: “Rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol gael parch, statws a chyflog o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol.
“Bydd gweledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn radical, yn cael ei harwain yn genedlaethol, ac yn cael ei darparu ledled Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar ein gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.”