Mae’n debyg bod dwy ddynes yn marw yn ddiangen bod dydd oherwydd nad ydyn nhw’n cael yr un driniaeth a dynion ar gyfer trawiad ar y galon, yn ôl elusen.

Roedd anghydraddoldeb mewn ymwybyddiaeth, diagnosis a thriniaeth ar gyfer trawiad ar y galon wedi arwain at farwolaeth o leiaf 8,000 o ferched yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 2003-2013, meddai Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF).

Mewn adroddiad newydd, mae’r elusen yn dweud bod merched yn oedi cyn cael help pan maen nhw’n cael symptomau.

Hefyd, mae’n cael ei ystyried yn glefyd sy’n effeithio dynion yn bennaf, yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon.

Ond mae dwywaith cymaint o fenywod yn marw o glefyd y galon, yr hyn sy’n achosi’r rhan fwyaf o drawiadau ar y galon, na chanser y fron yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr elusen.

“Gwahaniaethau”

Dywedodd Dr Sonya Babu-Narayan, cardiolegydd ymgynghorol: “Mae’n llawer haws i drin trawiadau ar y galon nag erioed o’r blaen. Ac eto mae menywod yn marw’n ddiangen oherwydd bod trawiadau ar y galon yn aml yn cael eu gweld fel clefyd sy’n effeithio dynion, a dydy menywod ddim yn derbyn yr un safon o driniaeth ag y mae dynion.

“Mae’r astudiaethau ar gyfer yr adroddiad wedi amlygu gwahaniaethau ym mhob cam o daith feddygol menyw. Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth. Ond gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni newid hyn.”

Mae tua 35,000 o fenywod yn mynd i’r ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon bob blwyddyn  yn y Deyrnas Unedig, meddai  Sefydliad Prydeinig y Galon.

Un ôl astudiaeth ym Mhrifysgol Leeds a gafodd ei ariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon, fe allai mwy na 8,200 o farwolaethau o ganlyniad i drawiad ar y galon yng Nghymru a Lloegr fod wedi cael eu hatal petai merched wedi cael yr un gofal a dynion.

Yn ôl ymchwil Sefydliad Prydeinig y Galon, mae merched 50% yn fwy tebygol na dynion i gael y diagnosis anghywir pan maen nhw’n cael trawiad ar y galon, sy’n cynyddu’r risg o farwolaeth.