Ym Mharis mae nifer o arweinwyr a chyn-arweinwyr yn dechrau ymgynnull ar gyfer angladd cyn-arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, a fu farw wythnos ddiwethaf yn 86 oed.
Fe fydd gwasanaeth preifat i’r teulu yn cael ei gynnal ddydd Llun (Medi 30). Yn ddiweddarach fe fydd yr Arlywydd Emmanuel Macron yn bresennol mewn digwyddiad i roi anrhydeddau milwrol i Jacques Chirac ger safle bedd Napoleon.
Fe fydd ei arch wedyn yn cael ei gludo i eglwys Saint-Sulpice ar gyfer seremoni lle bydd arweinwyr fel Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn bresennol.
Mae disgwyl i funud o dawelwch gael ei nodi mewn ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws y wlad ar ddiwrnod o alaru cenedlaethol.
Fe fu Jacques Chirac yn rhan allweddol o wleidyddiaeth Ffrainc dros bedwar degawd, a bu’n faer Paris, prif weinidog ac yn Arlywydd rhwng 1995 hyd at 2007.