Mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio parhau a’u cynhadledd heddiw (dydd Llun, Medi 30) ar ôl i honiadau am fywyd personol y Prif Weinidog daflu cysgod dros ddiwrnod cyntaf y digwyddiad ddoe.
Wrth i aelodau’r blaid ymgynnull ym Manceinion dros y penwythnos, bu’n rhaid i Stryd Downing wadu cyhuddiadau bod Boris Johnson wedi cyffwrdd rhan o goes newyddiadurwraig o dan fwrdd yn ystod cyfarfod preifat.
Yn ôl Charlotte Edwardes, fe ddigwyddodd y digwyddiad yn swyddfeydd The Spectator yn Llundain ychydig wedi iddo gael ei benodi’n olygydd y cylchgrawn yn 1999.
Mae’n honni bod Boris Johnson hefyd wedi cyflawni’r un weithred i’r ddynes a oedd yn eistedd ar yr ochr arall iddo yn ystod yr un cyfarfod.
Yn ôl swyddfa’r Prif Weinidog: “Dyw’r honiad ddim yn wir.”
Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gorfod gwadu honiadau ynglŷn â’i gysylltiad â’r ddynes fusnes, Jennifer Arcuri, pan oedd yn faer Llundain.
Cyhoeddi cynlluniau newydd
Yn ystod y gynhadledd heddiw, mae disgwyl i’r Canghellor, Sajid Javid, gyhoeddi cynlluniau ar gyfer “chwyldro isadeiledd”, sy’n cynnwys pecyn gwerth £5bn ar gyfer band eang a £220m ar gyfer bysiau.
Yn y cyfamser, bydd yr Ysgrifennydd Tai, Robert Jenrick, yn amlinellu cynlluniau i leihau’r gwaith papur sy’n bodoli yn y maes – cam a all helpu datblygwyr bach i adeiladu tai newydd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Therese Coffey, yn cyhoeddi y bydd apiau newydd yn cael eu treialu er mwyn helpu pobol ifanc i ddod o hyd i waith.
Mae disgwyl i’r gynhadledd barhau tan ddydd Mercher (Hydref 2).