Mae rhagor o law ar ei ffordd ddydd Llun (Medi 30) ar ôl penwythnos o gawodydd trwm sydd wedi achosi llifogydd a thirlithriadau mewn rhannau o Gymru.

Mae’r glaw trwm wedi achosi trafferthion i deithwyr hefyd gyda bysys yn lle trenau rhwng y Drenewydd a Machynlleth bore ma.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 10 rhybudd am lifogydd, yn bennaf yn y de a’r gorllewin gan gynnwys Talacharn, Aber Wysg, Afon Tywi, ac Aber Gwy.

Mae 22 rhybudd am lifogydd posib hefyd mewn grym.

Tirlithriad

Mae Cyngor Sir Powys yn dweud y bydd yr A490 ger Cegidfa ar gau am gryn amser wedi tirlithriad i’r ffordd fawr yno.

Digwyddodd y tirlithriad ger Parc Gwyliau Valley View, Pentre’r Beirdd ddydd Sul ar ôl oriau o law trwm, gan gau’r ffordd rhwng Y Trallwng a’r A495.  Mae gwyriadau traffig mewn lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: “Mae tua 100 tunnell o bridd, cerrig a choed wedi llithro i’r ffordd fawr ac mae peirianwyr priffyrdd wrthi’n asesu’r safle.

“Rydym yn gweithio gyda Pharc Gwyliau Valley View, ond mae’n debygol y bydd y ffordd ar gau am dipyn.  Fe wnawn roi gwybod i drigolion a gyrwyr pan ddaw mwy o wybodaeth i law.”