Mae dyn a drawyd gan gar tra’n croesi’r ffordd gyda grŵp o ffrindiau ym Merthyr Tydful wedi dioddef anafiadau a all newid ei fywyd.
Aed a’r dyn 18-mlwydd-oed i’r ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar bach du tua chwarter i unarddeg o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn).
Arestio dyn mewn cysylltiad a’r gwrthdrawiad
Mae dyn 19-mlwydd-oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad a’r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ger y ganolfan ddinesig ar Rhodfa De Clichy.
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio ar i lygaid dystion gysylltu gyda nhw ar 101.