Mae miloedd o staff y cwmni teithio Thomas Cook yn paratoi eu hunain i fynd heb gyflog yfory – y diwrnod y dyle nhw gael eu harian.

Fe gollodd oddeutu round 9,000 o staff eu swyddi yn oriau man ddydd Llun diwethaf wedi i’r busnes fynd i’r wal.

Yr adeg hynny cafodd y gweithwyr ebost i ddweud fod y cwmni wedi ceisio eu gorau ond fod trafodaethau wedi methu.

Roedd llawer yn disgwyl i’r cwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr ac y bydde cwmni arall o debyg yn eu prynu.

Camau cyfreithiol

Fel arfer, fe fydde’r gweithwyr yn cael eu talu ar y 30fed o bob mis.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd rhagor na 100 o staff eu bod am gymeryd camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni gwyliau i geisio adennill miloedd o bunnau o gyflogau.

Dywedodd swyddog yr undeb Unite eu bod wedi erfyn ar Lywodraeth San Steffan i helpu’r gweithwyr.

Disgwylir y bydd cannoedd o staff Thomas Cook staff yn cynnal protest yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion yfory – y diwrnod y dyle nhw fod wedi cael eu cyflogau.