Mae pryderon am y cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith grwpiau o bobol ifanc mewn pentref ar Ynys Môn.

Yn y mis diwethaf, mae’r cyhoedd wedi cysylltu â’r llu yn poeni bod hyd at 30 o bobol ifanc – rhai ond yn 14 oed – yn ymgynull yn Llanfairpwll tan yr oriau mân ar benwythnosau.

Dywed yr heddlu bod difrod wedi ei achosi i faes pêl-droed y pentref, a bod yna dystiolaeth o yfed alcohol a chymryd cyffuriau.

Maen nhw hefyd yn dweud bod hi’n bosib bod rhai o’r unigolion yn dod i’r pentref o rannau eraill o’r ynys ac o Wynedd.

Ansawdd bywyd trigolion

“Mae gweld pobol ifanc yn ymgynnull a chymdeithasu yn rhan annatod o fywyd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Fodd bynnag, pan mae ymddygiad unrhyw berson ifanc neu oedolyn yn helaethu i’r drefn gyhoeddus, difrod troseddol camddefnyddio alcohol a chyffuriau – yn amlwg fe fydd y troseddau hynny’n effeithio ar ansawdd bywyd trigolion.

“Fel tîm plismona rydym hefyd yn poeni am y peryglon posib i’r bobol ifanc. Yn anffodus, mae ecsploetio pobl ifanc yn rhywiol ac yn droseddol yn risg gwirioneddol.”