Mae nifer o ffyrdd wedi eu cau oherwydd llifogydd gyda Pont ar Ddyfi, Machynlleth hefyd ar gau.

Cyhoeddwyd rhybuddion fod posibilrwydd o lifogydd mewn cartrefi a busnesau wrth i’r cyntaf o ddau rybudd tywydd ddod i rym yn hwyr brynhawn Sadwrn.

Mae 15 o rybuddion yn dal mewn grym heddiw gan gynnwys Llanddulas a Llanfairfechan yn y Gogledd.

Yn y De orllewin, mae rhybuddion ar Afon Cothi, Afon Tywi, Nant Bran, Birchgrove, Abertawe, Afon Clydach, Dale a Chydweli. Yn y De ddwyrain, mae rhybuddion ar hyd afon Elai a’r Afon Gwy. Yn y Canolbarth, mae rhybuddion ar yr Afon Efyrnwy yn Llanymynech a Meifod.

Daeth y rhybudd cyntaf i rym am 6yh neithiwrwrth i’r Swyddfa Dywydd ddarogan glaw trwm dros bob rhan o Gymru.

Llanw uchel a stormydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi rhybuddio pobl sy’n byw ger yr arfordir i fod yn wyliadwrus, gyda chyfuniad o lanw uchel a stormydd i ddod dros y penwythnos hyd at ddydd Mawrth.

Dywedodd y corff eu bod yn edrych ar yr arfordir i gyd, ond yn benodol ar ardaloedd Casnewydd a Chas-gwent.

Maen nhw’n disgwyl trafferthion i deithwyr, ac yn rhybuddio hefyd y gallai cyflenwadau trydan gael eu colli mewn mannau.