Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn barod i fynd “trwy’r llysoedd os oes angen” er mwyn sicrhau bod rheoliadau ar fewnforion di-dariff – yn enwedig o Iwerddon – yn cael eu gorfodi “yn iawn” wedi Brexit.
Daw’r rhybudd yn dilyn cyfarfod yn Llanfair ym Muallt yr wythnos hon a oedd yn trafod y cwymp diweddar ym mhrisiau gwartheg.
Yn ôl yr undeb, mae hi’n barod i “herio unrhyw fethiannau” gan Lywodraeth Prydain i orfodi rheoliadau tariffau. Byddai methiant i wneud hynny, meddai, yn arwain at fewnforion di-dariff yn cael mynediad “trwy’r drws gefn”.
Dywed Llywydd yr FUW, Glyn Roberts: “Ers i gyfraddau tariff mewnforio drafft a’r cynnig i ganiatáu mewnforion di-doll o Weriniaeth Iwerddon i Ogledd Iwerddon gael eu cyhoeddi ym Mawrth, rydym wedi ysgrifennu dro ar ôl tro at Ysgrifenyddion Gwladol yn tanlinellu’r difrod y byddai’r cyfraddau isel hynny yn ei achosi i amaethyddiaeth yng Nghymru.
“Rydyn ni hefyd wedi cwestiynu cyfreithlondeb gosod tariffau ar sero ar ffin Iwerddon, ac wedi tynnu sylw at y tebygolrwydd y byddai hyn yn agor y drws cefn i smyglo i’r tir mawr oni bai bod rheoliadau tariffau mewn porthladdoedd fel Lerpwl yn cael eu gorfodi’n gaeth.”
‘Smyglo cynnyrch’
Mae Glyn Roberts yn honni “y gall cynhyrchion fel cig eidion o Iwerddon – a ddylai fod yn amodol ar dariffau wrth ddod i mewn i Gymru, Lloegr neu’r Alban – groesi o Ogledd Iwerddon i borthladdoedd fel Lerpwl yn ddi-doll.”
Mae’n dadlau y byddai trefniant o’r fath yn cael “effaith andwyol” ar ffermwyr gwledydd Prydain, a fydd eu hunain yn gorfod wynebu tariffau llawn ar eu cynnyrch, meddai.
Mae’n rhybuddio y byddai hyn hefyd yn “agor y drws cefn” i fewnforion di-dariff o rannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd.
“Rydyn ni eisoes wedi trafod gydag eraill y posibilrwydd o gamau cyfreithiol os bydd hyn yn digwydd ac rydyn ni’n hyderus y byddai’n achos diamwys,” meddai Glyn Roberts.
“Y ffordd amlwg o gwmpas hyn yw sicrhau nad ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, fel sy’n parhau i gael ei fygwth gan y Prif Weinidog er gwaethaf y ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi ar waith i atal hyn rhag digwydd.”
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.