Mae busnesau bach angen cefnogaeth frys gan y Llywodraeth er mwyn gallu ymdopi gyda Brexit heb gytundeb ar Hydref 31, yn ôl ymchwil newydd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Dywed yr ymchwil fod 39% o fusnesau bach fod Brexit heb gytundeb am gael effaith negyddol ar eu busnes.
Dim ond 21% ohonynt wedi paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, tra bod 63% o fusnesau bach o’r farn nad yw’n bosib paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Wrth ymateb i ganlyniad yr ymchwil dywed Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach, Mike Cherry, fod angen cefnogaeth ariannol ar fusnesau bach wrth iddynt baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb.
Galwodd hefyd am gefnogaeth i fusnesau bach geisio cyrraedd marchnadoedd rhyngwladol.