Mae Neil McEvoy wedi lladd ar Blaid Cymru yn dilyn ymgais aflwyddiannus i orfodi Llywodraeth Cymru i ryddhau dogfennau yn gysylltiedig â Carl Sargeant.
Cafodd cynnig i ryddhau’r wybodaeth ei gyflwyno gan y cyn-aelod Plaid Cymru deufis yn ôl – ei drydydd ymgais – a’i obaith oedd y byddai Aelodau Cynulliad yn cael bwrw pleidlais trosto yn y siambr.
Ond mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad wedi rhwystro hynny rhag digwydd, meddai, a gan fod gan Blaid Cymru seddi ar y pwyllgor, mae wedi beio’i gyn-blaid yn rhannol am hyn.
“Dw i wedi fy syfrdanu bod Plaid wedi penderfynu ochri gyda Llafur er mwyn rhwystro’r Cynulliad rhag cynnal pleidlais ddemocrataidd ar ryddhau ymchwiliad Carl Sargeant,” meddai.
“Ar yr un diwrnod mae eu Haelodau Seneddol yn Llundain yn cyhuddo’r llywodraeth [yno] o sathru ar ddemocratiaeth seneddol, roedd ei Phrif Chwip yng Nghymru yn gweithio â Llywodraeth [Cymru] i stopio senedd Cymru rhag pleidleisio ar fater sydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.”
Mae gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr, Plaid Brexit a Llafur seddi ar y pwyllgor; ac mae Neil McEvoy yn dweud mai dim ond Plaid Brexit a’r Ceidwadwyr wnaeth ei gefnogi.
Mae cynnwys eu cyfarfod diwethaf yn breifat, ac mae’n debyg bod dylanwad pob plaid ar y pwyllgor yn dibynnu ar faint o seddi sydd ganddyn nhw yn y siambr – hynny yw, mwy o seddi, mwy o ddylanwad.
Yr ymchwiliad
Mi laddodd yr Aelod Cynulliad ei hun wedi iddo gael ei ddiswyddo o’i rôl ar y cabinet, ac mae rhai’n honni i’r newyddion am ei ddiswyddiad gael ei rhyddhau cyn iddo glywed ei hun.
Cafodd ymchwiliad i’r honiad yma ei gynnal y llynedd, dan arweiniad Prif Swyddog Diogelwch Llywodraeth Cymru, a daeth i’r casgliad bod y wybodaeth heb gael ei rhannu.
Ond mae sawl Aelod Cynulliad, gan gynnwys y cyn-aelod Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi gwrthod y casgliad yma, ac am i wybodaeth lawn yr ymchwiliad gael ei rhyddhau.