Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o ddeng mlynedd am ddelio cyffuriau Dosbarth A yn ardal Llanelli.
Fe gafodd Andrew Brian Taylor, 43, o Lanelli ei ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar, tra bo Junior Ralph Forbes-Williams, 20, o Birmingham wedi derbyn pedair blynedd a hanner.
Cafodd y ddau eu harestio yn ystod cyrch ar gartref Andrew Brian Taylor ym mis Ionawr. Fe gynhaliwyd y cyrch ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys glywed bod delio cyffuriau yn digwydd yno.
Yn ôl y llu, fe wnaethon nhw ddarganfod amrywiaeth o gyffuriau anghyfreithlon gwerth £1,000 yn y fflat, yn ogystal â £600 mewn arian parod.
Daeth i’w sylw hefyd fod gan y cyffuriau gysylltiadau ag ardal Birmingham.
Cafodd y ddau droseddwr eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar ddiwedd achos a barodd chwe diwrnod.