Mae swyddogion yng ngharchar Long Lartin ger Caerwrangon wedi llwyddo i dawelu carcharorion yn dilyn helynt ers neithiwr (nos Fawrth, Medi 24).
Fe fu oddeutu 20 o garcharorion yn taflu peli pŵl at y swyddogion, ac yn difrodi rhan o’r adeilad.
Bu’n rhaid i un o’r swyddogion dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond mae e wedi cael mynd adref erbyn hyn.
Cafodd tîm arbennig eu hanfon i’r carchar i dawelu’r sefyllfa, ac fe ddaeth yr anghydfod i ben yn gynnar fore heddiw.
Mae undeb gweithwyr y carchardai’n dweud bod ganddyn nhw “bryderon mawr” am ddiogelwch a gallu swyddogion i gadw trefn ar garcharorion, a rhai ohonyn nhw ymhlith y carcharorion mwyaf peryglus yng ngwledydd Prydain.
Yn eu plith mae Christopher Halliwell, y llofrudd sydd wedi ysbrydoli’r gyfres deledu ddiweddar, A Confession.
Mae lle i 622 o garcharorion ar y safle, gydag oddeutu 500 yno ar hyn o bryd, a 75% ohonyn nhw dan glo am oes.
Dyma’r ail helynt yno dros y flwyddyn ddiwethaf, gydag 81 o garcharorion ynghanol y digwyddiad blaenorol y llynedd.