Mae dwy sy’n gweithio i Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn gwobrau dewrder am eu rhan mewn dau ddigwyddiad blaenllaw.

Mae’r Cwnstabl Jessica Hanley wedi’i chydnabod am ei hymateb i’r tân yng ngwesty’r Belgrave yn Aberystwyth fis Gorffennaf y llynedd, tra bod y PCSO Caryl Griffiths wedi ymateb i’r alwad pan aeth merch fach i afon Teifi fis Mawrth y llynedd.

Mae’r ddwy wedi teithio i Alaska yn yr Unol Daleithiau i dderbyn cydnabyddiaeth am eu dewrder yn y ddau achos.

Tân gwesty’r Belgrave

Cafodd yr heddlu eu galw i westy’r Belgrave ar brom Aberystwyth yn yr oriau mân ar Orffennaf 25 y llynedd.

Roedd y Cwnstabl Jessica Hanley ymhlith y rhai cyntaf i gyrraedd y tân, wrth i nifer sylweddol o bobol fynd yn sownd y tu mewn.

Aeth hi i mewn i’r adeilad i achub nifer o bobol, gan gynnwys plant, cyn bod y gwasanaeth tân yn cyrraedd.

Ar ôl hynny, rhoddodd hi gymorth i gydweithiwr oedd wedi’i orchfygu gan fwg, gan sicrhau ymadawiad diogel, er bod to’r adeilad yn cwympo.

Cafodd 59 o bobol eu hachub i gyd, ond fe fu farw un person.

Ceisio achub plentyn o afon Teifi

Cafodd yr heddlu eu galw i afon Teifi yn Aberteifi ar Fawrth 19 y llynedd, yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi mynd i mewn i’r afon ar ôl i gar gael ei ddwyn.

Roedd merch fach y tu mewn i’r car, ac fe gafodd y car ei weld yn yr afon.

Defnyddiodd Caryl Griffiths ei gwybodaeth o’r ardal i helpu i chwilio am y ferch fach, a doedd ganddi ddim offer arbenigol.

Aeth hi i mewn i’r afon a nofio at y car ac er iddi gael mynediad i’r cerbyd, doedd dim modd achub y ferch fach, oedd wedi marw erbyn iddi gyrraedd.