Mae gyrrwr tacsi o Wynedd wedi cael ei ddirwyo ar ôl symud offer traffig ar bont.
Ymddangosodd David Gwynedd Morris, 55, o Ffordd Nantlle, Tal-y-sarn, gerbron y llys yng Nghaernarfon ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Medi 23).
Roedd wedi ei wysio ar ôl cael ei ffilmio’n symud rhwystrau diogelwch a chôn traffig ar Bont Bodfel yn ardal Boduan. Mae’r bont ar ffordd yr A497 wedi bod ynghau ers mis Ionawr oherwydd difrod strwythurol.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y fideo ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar ôl iddyn nhw wneud ymholiadau, fe ddaethon nhw o hyd i David Gwynedd Morris.
Mae’r gŵr, 55, wedi cael ei ddirwyo £250 am dorri’r gyfraith, yn ogystal â gorchymyn i dalu gwerth £775 o gostau a £30 o ordal dioddefwr