Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad ar lanc 16 oed yn Llanelli.
Fe ddigwyddodd rhwng 12.40 ac 1 o’r gloch ar brynhawn dydd Llun, Medi 2 ar y cae rhwng Stryd Arthur a Stryd Ann.
Ymosododd dau ddyn ar y llanc cyn ffoi, ac fe fu’n rhaid i’r llanc dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau i’w wyneb.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.