Fydd y Blaid Lafur ddim yn clymbleidio ag unrhyw wrthblaid arall os fyddan nhw’n methu ag ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dyna mae arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn, wedi datgelu ar drothwy ei chynhadledd flynyddol yn Brighton.
Mae’r Arweinydd wedi dweud y bydd y blaid yn ceisio gorfodi etholiad unwaith bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llwyr gefnu ar gytundeb heb ddêl.
Ond mewn cyfweliad â sianel UTV, mae wedi datgelu y byddai’r Blaid Lafur yn sefydlu Llywodraeth heb fwyafrif yn hytrach na cheisio taro dêl â phleidiau eraill.
“Beth bynnag fyddai’r canlyniad, fe fydden yn ceisio sefydlu llywodraeth,” meddai. “Dw i ddim am ymhelaethu. Dw i ddim am glymbleidio.”