Mae aelod o banel disgyblu Plaid Cymru wedi rhoi ei farn ar etholiad cadeirydd y blaid, lle mae Alun Ffred Jones – y Cadeirydd presennol – a’r Dr Dewi Evans yn mynd benben â’i gilydd.
Yn ôl Olaf Cai Larsen, sy’n aelod o Bwyllgor Gwaith y blaid a’i Phwyllgor Aelodaeth, Safonau a Disgyblu, fe fydd ethol Dr Dewi Evans yn Gadeirydd yn “weithred hunan niweidiol ar ran y blaid”.
Yn ei gyfraniad diweddaraf ar-lein, Blogmenai.com, mae’r cynghorydd ar Gyngor Gwynedd yn cyfeirio at ymgyrch yr ymgeisydd fel enghraifft o’r “cryn dipyn o droelli cwbl gam arweiniol [sic.] ynglŷn a phrosesau disgyblu’r blaid.”
Mae’n cyhuddo Dr Dewi Evans o fod yn “gwbl gamarweiniol” wrth awgrymu bod aelodau – gan gynnwys yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy – wedi cael eu gwahardd o’r blaid am resymau gwleidyddol.
Mae’n mynd yn ei flaen wedyn i honni mai bwriad Dr Dewi Evans yw “amharu” ar broses ddisgyblu y blaid drwy adael i’r aelodau hynny sydd wedi eu gwahardd ddychwelyd – rhywbeth nad oes ganddo’r “mymryn lleiaf o rym” i’w ganiatáu, meddai’r cynghorydd.
‘Anwybyddu’r rheolau sefydlog’
“Mae ymhlyg yn ymgyrch Dewi Evans nad oes angen cyfundrefn ddisgyblu o gwbl – neu o leiaf cyfundrefn ddisgyblu sydd efo dannedd,” meddai Olaf Cai Larsen yn ei lith.
“Byddai cyfundrefn ddisgyblu sydd ddim yn cosbi neb am dorri rheolau sefydlog ddim gwerth ei chael.
“Os nad oes gan y Blaid gosb effeithiol am dorri’r rheolau hynny does ganddi hi ddim parch at ei rheolau ei hun – ac os nad oes ganddi barch at ei rheolau ei hun does ganddi ddim parch ati hi ei hun chwaith yn y pen draw.”
“Cadeirydd sy’n ymffrostio yn ei wendid ei hun”
Mae Olaf Cai Larsen hefyd yn disgrifio awydd Dr Dewi Evans i gymodi â chyn-aelodau fel ffordd “sylfaenol wallus” o edrych ar bethau.
“Dydi cymodi ddim yn ffordd o ddelio efo aelodau sy’n torri rheolau sefydlog – llwfdra [sic.] digyfeiriad ydi mynd ati i wneud hynny…
“Byddai ethol cadeirydd sydd ddim eisiau amddiffyn rheolau sefydlog y Blaid, sydd ddim eisiau cymryd camau effeithiol pan mae argyfwng yn codi, ond sydd eisiau amharu ar brosesau sydd y tu hwnt i’w faes gorchwyl yn gamgymeriad dybryd,” meddai wedyn.
“Y peth diwethaf mae’r Blaid ei angen ar yr adeg yma yn ei hanes ydi cadeirydd gwan – a chadeirydd sy’n ymffrostio yn ei wendid ei hun.”
Yr etholiad
Bydd aelodau yn dewis swyddogion y blaid yn y Gynhadledd Flynyddol yn Abertawe rhwng Hydref 4 a 6.
Mae etholiad y Cadeirydd eisoes wedi ennyn cryn drafod, ac mae rhai’n poeni gallai achosi rhwyg parhaol o fewn Plaid Cymru.
Mae dadleuon blaenorol i’w gweld yn fan hyn. A mwy yn fan hyn.