Mae Iran wedi cydnabod am tro cyntaf bod tri pherson o Awstralia – gan gynnwys dau sydd a dinasyddiaeth gwledydd Prydain – yn cael eu cadw o dan glo ar amheuaeth o ysbïo.
Mae asiantaeth newyddion Tasnim yn adrodd fod y tri pherson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â dau achos ar wahân.
Yn ôl llefarydd ar ran y farnwriaeth, sy’n cael ei ddyfynnu gan yr asiantaeth, mae dau ohonyn nhw yn y ddalfa am ddefnyddio drôn i dynnu lluniau a fideos anghyfreithlon o ardaloedd milwrol yn y wlad.
Y gred yw mai’r flogwraig, Jolie King, a’i chariad, Mark Firkin, yw’r ddau hyn.
Mae’n debyg mai’r academydd Kylie Moore-Gilbert yw’r trydydd person sy’n wynebu cyhuddiadau yn ymwneud ag ysbïo ar ran gwlad arall.
Dywedodd yr awdurdodau yn Awstralia yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw’n rhoi pwysau ar Iran i ryddhau’r rheiny sydd dan glo.