Mae Cyfeillion y Ddaear am gyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru yn galw am newid y gyfraith ar blastig un tro yn unig.
Mae mwy na 2,000 o bobol wedi llofnodi’r ddogfen a fydd yn cael ei chyflwyno i Hannah Blythyn, y dirprwy weinidog.
Maen nhw’n galw am gyflwyno tâl ar gwpanau têcawê plastig.
Mae adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai codi tâl o 25 ceiniog ar gwpanau plastig un tro yn lleihau nifer y cwpanau plastig o 30%, ac yn codi £97m y flwyddyn mewn trethi.
Nododd ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn 2017 y byddai codi tâl yn fwy effeithiol na lleihau y defnydd ohonyn nhw.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 237 o gwpanau coffi un tro a thros 320,000,000 o gwpanau eraill yn cael eu defnyddio.
Pe bai’r cwpanau hyn yn cael eu gosod ochr yn ochr, byddai digon ohonyn nhw i fynd o amgylch y cyhydedd a mwy.
‘Rhaid lleihau’r nifer’
“Rhaid lleihau nifer y cwpanau hyn,” meddai llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru, sy’n galw am dâl o 25 ceiniog am gwpanau plastig un tro.
“Fydd eu hailgylchu nhw’n unig ddim yn datrys y broblem, a dyna pam ein bod ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno tâl bach, sy’n cael ei adnabod yn gyffredin fel y latte levy.
“Mae’n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru’n falch o fod wedi cyflwyno’r tâl ar fagiau plastig yn 2011, sydd wedi annog nifer ohonon ni i ddod â’n bagiau plastig ein hunain i’r archfarchnad.
“Mae’r tâl wedi lleihau’n sylweddol y nifer o fagiau plastig sy’n cael eu defnyddio.
“Byddai latte levy yn gwneud yr un fath i gwpanau un tro.”