Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amlinelliad o’i chynlluniau i warchod Cymru rhag effeithiau Brexit heb gytundeb.
Mae’r cynllun gweithredu’n mynd i’r afael â chanlyniadau posib ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar gyfer gwahanol agweddau ar fywyd yng Nghymru.
Serch hynny, mae gweinidogion yn rhybuddio na all unrhyw gamau gael eu cymryd ganddyn nhw na Llywodraeth Prydain i warchod rhag yr effeithiau mwyaf difrifol.
“Rydym yn cyhoeddi’r trosolwg hwn o’n cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb i sicrhau tryloywder,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Cymru.
“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i gyfyngu ar y niwed a fydd yn cael ei achosi gan Brexit heb gytundeb.
“Rydym yn gobeithio na fydd angen i ni gymryd y camau yn y cynllun hwn, ond mae un peth yn gwbl sicr, bydd Brexit heb gytundeb yn niweidiol iawn i Gymru. Mae rhagdybiaethau cynllunio Llywodraeth y DU, a ddatgelwyd yr wythnos diwethaf, yn rhagweld prisiau tanwydd uwch, prinder o rai bwydydd, protestiadau ac oedi mewn porthladdoedd, ac y bydd y rheini ar incwm isel yn cael eu heffeithio fwy na neb – nid codi ofn yw diben hyn, ond nodi’r ffeithiau.
“Nid yw ymadael â’r UE heb gytundeb yn opsiwn hyfyw o gwbl. Mae’n union fel llywio’r llong yn fwriadol tuag at y creigiau. Y ffordd orau o osgoi llongddrylliad yw newid cyfeiriad y llong, ac ni wnawn ymddiheuro am barhau i gyflwyno’r achos dros hyn mor bendant ag y gallwn.
“Ond mae gennym ddyletswydd i baratoi ar gyfer yr hyn a all ddigwydd ac rydym yn parhau i wneud hynny, er y bydd yn amhosibl lliniaru effaith ymadael heb gytundeb yn gyfan gwbwl.”
Y prif feysydd
Mae trosolwg y llywodraeth yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, sef cydweithio ar lefel Brydeinig, cydweithio â phartneriaid a sefydliadau yng Nghymru, deddfwriaeth a chynlluniau sifil wrth gefn i ymateb i’r materion sydd o’r pwys mwyaf.
Fe fu Llywodraeth Cymru’n gweithio ar y cynllun ers 2016, sy’n cynnwys:
- creu cronfa gwerth £50m a phwyso ar Lywodraeth Prydain am ragor o arian;
- cynnig cyngor i fusnesau ar sut i baratoi cyllid ychwanegol;
- buddsoddi mewn gofod i storio cynnyrch meddygol;
- lleihau’r anghyfleustra ym mhorthladd Caergybi;
- a chynnig cymorth ariannol i’r sectorau amaeth, bwyd a physgota.