Mae dyn 21 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar ôl lladd dyn 71 oed â chyllell yn Borth.
Roedd Lewis Stone allan yn cerdded gyda’i gŵn ger sŵ Borth yng Ngheredigion pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar lannau afon Leri ar Chwefror 28, ac fe fu farw dri mis yn ddiweddarach.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod David Fleet wedi cael pwl o sgitsoffrenia cyn yr ymosodiad, pan drywanodd e Lewis Stone nifer o weithiau.
Mae ganddo fe hanes o salwch meddwl ac fe fu’n derbyn triniaeth yn y gymuned ar gyfer y cyflwr.
Clywodd y llys fod ei frawd wedi ei glywed yn ei ystafell wely ar fore’r ymosodiad yn siarad â fe ei hun, cyn cerdded allan i gyfeiriad y pentref.
Cafodd Lewis Stone ei weld yn gadael parc carafanau gyda’i gi Jock am oddeutu 9.20yb, ryw ugain munud cyn yr ymosodiad.
Clywodd tyst ddyn yn gweiddi ei fod e wedi cael ei drywanu, ac fe welodd e ffrwgwd rhwng y ddau ben draw’r afon.
Cafodd y digwyddiad ei weld, ac fe gafodd David Fleet ei arestio’n ddiweddarach wrth geisio rhedeg i ffwrdd, gan ddweud nad oedd e’n gwybod beth oedd wedi digwydd.
Dydy’r heddlu ddim wedi dod o hyd i’w gyllell.
Cafodd Lewis Stone ei gludo i’r ysbyty yn Stoke, ac fe gafodd e driniaeth ar ôl cael ei drywanu dair gwaith, yn ei stumog a’i gefn.
Cafodd e nifer o lawdriniaethau a thrallwysiadau gwaed, ond roedd e’n dioddef o sawl haint.
Bu farw ar Fai 23.
Yr achos
Plediodd David Fleet yn euog i ddynladdiad a bod ag arf yn ei feddiant, ac fe ddywedodd tri arbenigwr eu bod yn credu ei fod e’n dioddef o sgitsoffrenia a pharanoia.
Yn y ddalfa, fe ddywedodd ei fod e wedi mynd â chyllell o gegin ei rieni a phe na bai e wedi ymosod ar rywun, fod “lleisiau” yn mynd i’w ladd e.
Dywedodd y barnwr Paul Thomas nad oedd modd ei garcharu oherwydd ei salwch meddwl, ac y byddai’n cael ei gadw mewn uned iechyd meddwl am gyfnod amhenodol am driniaeth.