Mae disgwyl i ddyn, 20, fynd o flaen llys mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn Llanelli dros y penwythnos.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar Stryd y Farchnad yn y dref yn ystod yr oriau man fore Sul (Medi 15), pan gafodd dyn, 22, ei anafu’n ddifrifol.

Mae Declan Pugh, sy’n byw yn Llanelli, wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o ymosod cyffredinol, ac un achos o achosi niwed corfforol difrifol.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae’r cyhuddiadau mewn cysylltiad â thri digwyddiad ar wahân.

Mae’r achos o achosi niwed corfforol difrifol ac un achos o ymosod cyffredinol yn gysylltiedig â’r digwyddiad ar Fedi 15, tra bo’r achos arall o ymosod cyffredinol yn dyddio o Fedi 8.

Bydd Declan Pugh yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli y bore yma (dydd Llun, Medi 16).