Mae Aldi wedi dweud ei fod yn bwriadu mwy na dyblu nifer ei siopau yn Llundain gan barhau gyda chynlluniau i agor rhagor o siopau llai Aldi Local.
Ond mae’r cwmni archfarchnad o’r Almaen hefyd wedi cyhoeddi bod ei elw wedi gostwng 26% i £197.9 miliwn yn 2018 yn sgil buddsoddiad sylweddol.
Yn y cyfamser mae gwerthiant yn parhau i gynyddu wrth i fwy o gwsmeriaid droi at yr archfarchnad, gyda gwerthiant blynyddol ar draws ei siopau yng ngwledydd Prydain wedi cynyddu 11% i £11.3 biliwn.