Mae’r heddlu’n ymchwilio i ffrwgwd rhwng dau ddyn yn nhref Dinbych-y-Pysgod yn ystod oriau man fore heddiw (dydd Sul, Medi 15).
Ond maen nhw’n pwysleisio nad yw’n gysylltiedig â digwyddiad Ironman Cymru sy’n cael ei gynnal yno.
Mae dyn 29 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.
Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.