Mae dyn 22 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad yn Llanelli.
Fe ddigwyddodd yn ystod oriau man fore heddiw (dydd Sul, Medi 15) y tu allan i glwb nos Shakers.
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion.