Mae Guto Bebb wedi datgelu nad yw’n diystyru sefyll am sedd Aberconwy yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ar ôl cynrychioli’r etholaeth am bron i ddegawd yn Aelod Seneddol Ceidwadol, mi gollodd y chwip yr wythnos ddiwethaf ar ôl pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.
Roedd ymhlith 21 o Dorïaid a oedd o blaid y cynnig i ohirio dyddiad terfyn Brexit, ac yn sgil y bleidlais mae bellach yn cynrychioli Aberconwy yn Aelod Seneddol annibynnol.
Cyn colli’r chwip, roedd wedi cadarnhau na fyddai’n mynnu enwebiad Ceidwadol mewn etholiad arall, ac wrth siarad â Golwg yr wythnos hon mae wedi dweud ei fod yn agored i’r syniad o sefyll eto.
“Dw i ddim yn dweud fy mod i isio sefyll, a dw i ddim yn meddwl y bydda i’n sefyll,” meddai. “Ond mi fydda i yn cadw golwg i sicrhau nad ydy fy mhenderfyniad i ddim yn help i ddychwelyd rhywun sy’n arddel gadael heb gytundeb.
“Oherwydd does dim pwynt aberthu eich gyrfa wleidyddol dim ond i weld yr etholaeth rydych yn ei gynrychioli yn cael ei chynrychioli gan rywun sy’n fodlon rhoi gymaint o niwed i’r cymunedau dw i wedi eu cynrychioli ers degawd.”
Awydd mynd yn ôl?
Mae’r Aelod Seneddol hefyd wedi dweud nad yw’n bwriadu dychwelyd at grŵp seneddol y Blaid Geidwadol, a bod eraill o’r un meddylfryd ag ef.
“Dw i’n teimlo bod amryw un yn teimlo’r un fath,” meddai. “Rhyw deimlad bod y Blaid Geidwadol bellach wedi cyrraedd y pwynt lle i raddau dydy pobol ddim eisiau cael eu cysylltu â hi.
“Yn wir, dros y penwythnos, ges i un gweinidog yn y Llywodraeth yn gofyn i fi os oedd o’n gwneud drwg i’w enw da fo trwy aros yn rhan o’r Blaid Geidwadol eithafol yma.
“Mae wedi cyrraedd y sefyllfa yna.”
Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn â Guto Bebb yn rhifyn diweddaraf Golwg.