Mae Partneriaeth John Lewis wedi cyhoeddi colled sylweddol ac yn rhybuddio y caiff Brexit heb gytundeb effaith “arwyddocaol.”

Cyhoeddodd y grŵp, sy’n berchen John Lewis ac archfarchnad Waitrose, golled cyn treth o £25.9m yn chwe mis cynta’r flwyddyn hyd at Gorffennaf 27 o’i gymharu ag elw o £800,000 y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r cwmni wedi paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, ond ni allai ddarogan yr effaith yn llawn, meddai.

Dywed y cwmni bod gwerthiant wedi gostwng oherwydd hinsawdd busnes “heriol,” a “gostyngiad mewn hyder cwsmeriaid.”

Dywed cadeirydd y bartneriaeth, Charlie Mayfield: “Os fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, bydd yr effaith yn arwyddocaol ac nid yw’n bosib lliniaru’r oblygiadau.”