Bydd marchnad anifeiliaid Aberteifi yn cau ei gatiau am y tro olaf heddiw (dydd Llun, Medi 9).
Fe gyhoeddodd yr arwerthwyr, JJ Morris, fis diwethaf eu bod nhw wedi penderfynu dod â’r farchnad i ben oherwydd costau cynyddol, prinder anifeiliaid ac achosion o’r diciáu yn lleol.
Mae’r arwerthwyr hefyd yn gyfrifol am farchnadoedd yn Hendy-gwyn ar Daf a Chrymych, ond mae lle i gredu nad yw eu penderfyniad yn effeithio ar y rheiny.
Yn ôl y Cynghorydd Clive Davies, sy’n aelod o Gyngor Tref Aberteifi, mae cau Mart Aberteifi yn “ddiwedd cyfnod yn economi amaeth” yr ardal.
Pryder ehangach
Mae yna bryder hefyd am ddyfodol rhai marchnadoedd anifeiliaid eraill yng Nghymru. Mae Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Brian Thomas, eisoes wedi dweud bod yr hyn sy’n digwydd yn Aberteifi yn “arwydd o’r amseroedd”.
Roedd yn cyfeirio at y farchnad hanesyddol yn y Bont-faen, sy’n wynebu cau yn sgil bwriad Cyngor Bro Morgannwg i adeiladu maes parcio ar gyfer siopwyr ar ei safle.
“Dw i’n pryderu tros ddyfodol rhai o’r marchnadoedd anifeiliaid llai,” meddai Brian Thomas.