Mae Stryd Downing wedi cadarnhau y bydd y Senedd yn San Steffan yn cael ei gohirio ar ddiwedd y dydd heddiw (dydd Llun, Medi 9).

Bydd holl gyfarfodydd y Senedd yn cael eu gohirio tan Hydref 14 pan fydd Araith y Frenhines yn cael ei thraddodi.

Ond cyn hynny, bydd Aelodau Seneddol yn cael cyfle i bleidleisio ar ail gynnig am etholiad cyffredinol.

Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog hefyd yn mynnu na fydd Boris Johnson yn gofyn am estyniad arall i Brexit, er bod deddfwriaeth newydd a luniwyd gan Aelodau Seneddol yn gorchymyn hynny.

“Fydd y Prif Weinidog [Boris Johnson] ddim yn gofyn am estyniad arall i Erthygl 50,” meddai ei lefarydd.

“Os yw Aelodau Seneddol am ddatrys hyn, mae yna ffordd hawdd – pleidleisiwch o blaid etholiad heddiw a gadewch i’r cyhoedd benderfynu.”

Ystyried uchelgyhuddo Boris Johnson

Mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi dweud wrth arweinwyr y gwrthbleidiau y dylen nhw fod yn barod i uchelgyhuddo Boris Johnson os yw’n gwrthod gofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad.

Yn dilyn cyfarfod a oedd yn cynnwys yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ac eraill, dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd:

“Dw i’n falch ein bod ni, fel y gwrthbleidiau, yn unedig yn ein cred y dylai ymgais Boris Johnson i danseilio’r gyfraith gael ei hatal.

“Os yw’r Prif Weinidog yn gwrthod gofyn am estyniad i Erthygl 50, fe fydd yn torri’r gyfraith – mae hynny’n blwmp ac yn blaen. Bydd yn rhaid iddo wedyn wynebu’r canlyniadau cyfreithiol.

“Fe ddywedais wrth y gwrthbleidiau eraill y bore yma y dylen nhw fod yn barod i uchelgyhuddo Boris Johnson os yw’n torri’r gyfraith.

“Roedd hwn yn broses y gwnaeth ef ei hun gefnogi yn 2004 pan geisiodd arweinydd presennol Plaid Cymru, Adam Price, uchelgyhuddo Tony Blair am ddweud celwydd.”

“Ffyddiog”

Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog Boris Johnson, sydd ar ymweliad ag Iwerddon heddiw, wedi dweud ei fod yn ffyddiog y bydd modd iddo ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd cyn Hydref 31.

Mae’n mynnu ei fod yn benderfynol o ddod i gytundeb ac y byddai Brexit heb gytundeb yn “fethiant”.