CBydd Cyngor Ceredigion yn cyhoeddi hysbysiadau ynglŷn â chynnig i agor ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Daw’r datblygiad ar ôl i gabinet y cyngor gymeradwyo argymhelliad i gyhoeddi’r hysbysiadau.

Bydd sefydlu ysgol ardal ar safle newydd yn golygu cau tair ysgol gynradd leol, sef Felin-fach, Ciliau Parc a Dihewyd.

Bydd cynghorwyr yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cynlluniau mewn cyfarfod llawn ym mis Rhagfyr.

 “Bwrw ymlaen â’r cynllun”

Fe gafodd ymgynghoriad ynglŷn ag ad-drefnu addysg yn Nyffryn Aeron ei gynnal dros yr haf, gyda Chyngor Ceredigion yn ffafrio sefydlu ysgol ardal ar gyfer 210 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.

“Bydd cyhoeddi’r hysbysiadau yn ein helpu i fwrw ymlaen â’n cynllun i agor ysgol newydd sbon yn Nyffryn Aeron,” meddai’r Cynghorydd Catrin Miles, yr aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu.

“Mae’n gyfle i ni gael isadeiledd ac offer nwydd sbon er lles addysg plant yn Nyffryn Aeron.”

Hysbysiad statudol

Bydd yr hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi ar Fedi 16, cyn dod i ben ar Hydref 13.

Mae cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn rhoi cyfle i bobol wrthwynebu’r cynnig.

Bu Cyngor Ceredigion yn ystyried ad-drefnu addysg yn Nyffryn Aeron yn 2016, ond cafodd y penderfyniad ei ohirio.