Mae cwmni awyrennau Loganair wedi datgelu manylion chwe llwybr newydd sy’n cysylltu’r Alban gyda Chymru, Norwy ac Ynysoedd y Sianel.

O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y cwmni Albanaidd yn cynnig gwasanaeth dyddiol newydd rhwng Caerdydd a Glasgow, a theithiau eraill o’r Alban i Norwy ac Ynysoedd y Sianel.

Yn ôl y cwmni, bydd y gwasanaeth rhwng Cymru a’r Alban “yr un mor bwysig ar gyfer busnes ag ydyw ar gyfer hamdden”.

Awyrennau Embraer 145 neu 135 fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer yr holl deithiau.

“Mae’r llwybrau newydd hyn yn ymestyn y cwmni awyr allan ymhellach ar draws y Deyrnas Unedig a gogledd Ewrop, gan fynd â’n hawyrennau i leoliadau newydd a chreu cysylltiadau newydd rhwng meysydd awyr rydym eisoes yn eu gwasanaethu,” meddai Jonathan Hinkles, rheolwr gyfarwyddwr Loganair.

“Rydym hefyd wedi cyffroi o gael dechrau gwasanaethu Caerdydd, gan redeg teithiau rhwng dinasoedd mwya’r Alban a Chymru – llwybr sydd yr un mor bwysig ar gyfer busnes ag ydyw ar gyfer hamdden.

“Wrth i’r cwmni awyr barhau i dyfu, rydym yn edrych o hyd am ffyrdd o wella’r cysylltiadau a chyfleustra ar gyfer ein cwsmeriaid.”