Mae gweinidog cyllid Iwerddon wedi dweud bod cynnig Boris Johnson i ddisodli’r backstop yn “annigonol”.

Daw hyn cyn cyfarfod rhwng Boris Johnson a Phrif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar heddiw (dydd Llun, Medi 9).

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd Paschal Donohoe: “Ar y funud, fy nealltwriaeth i yw bod y manylion ynglyn a sut byddai hyn yn gweithio ddim wedi cael eu datrys.”

Aeth ymlaen i bwysleisio fod angen gwarchod cytundeb dydd Gwener y Groglith.

“Mae’n rhaid i ni reoli termau llif marchnata gan warchod cytundeb dydd Gwener y Groglith.”