Mae pobol y cymoedd “yn allweddol i’r daith tuag at annibyniaeth” i Gymru, yn ôl cadeirydd Yes Cymru Merthyr.
Daeth 5,200 o bobol ynghyd yn y dref ddydd Sadwrn (Medi 7) ar gyfer gorymdaith Pawb Dan Un Faner a Yes Cymru, y drydedd orymdaith ar ôl y rhai yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Ymhlith y siaradwyr yn Sgwâr Dic Penderyn ar ôl yr orymdaith roedd beirdd, cantorion, gwleidyddion a sêr y campau.
Roedd digwyddiadau ymylol ar ôl yr orymdaith a’r rali, gan gynnwys gig Yes Is More a sesiwn gomedi Stand Up For Wales, yng Nghanolfan a Theatr Soar.
Roedd disgwyl i’r cyflwynydd Hardeep Singh Kohli ymddangos ond fe fu’n rhaid iddo dynnu’n ôl ar y diwrnod.
“Ro’n i’n bles iawn gyda’r niferoedd wnaeth droi lan, a gyda’r tywydd a’r ymateb hefyd yn y gymuned leol,” meddai Phyl Griffiths wrth golwg360 ar ôl y digwyddiad.
“Dyw Merthyr ddim yn gyfarwydd â gweld pethau fel hyn ar ei strydoedd hi, so roedd hwnna’n mynd i fod yn ddiddorol.
“Roedd rhai pobol efallai’n ddrwgdybus cyn y digwyddiad, ond beth ry’n ni wedi’i weld ers hynny yw lot mwy o bositifrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gan y grwpiau lleol ym Merthyr ac ati.”
‘Swmp sylweddol’ o’r Cymry’n byw yn y cymoedd
Gyda chryn dipyn o boblogaeth Cymru’n byw yn y cymoedd, mae’n dadlau bod ennill cefnogaeth i annibyniaeth yn yr ardaloedd hynny’n hollbwysig i’r ymgyrch.
“Ry’n ni wedi cael ein dewis fel y trydydd lleoliad ar gyfer y gorymdeithiau cenedlaethol oherwydd lleoliad Merthyr reit yng nghanol y cymoedd.
“Mae swmp sylweddol o boblogaeth Cymru’n byw yma yn y cymoedd.
“Ni’n ffaelu mynd ar unrhyw fath o daith tuag at annibyniaeth heb fynd â’r bobol hyn gyda ni. Dyw eu hanwybyddu nhw ddim yn opsiwn o gwbl.
“Beth sy’n braf gyda Pawb Dan Un Faner a Yes Cymru yw bo ni’n ymestyn ma’s i bawb a bo ni’n gynhwysol.
“Ry’n ni’n gweld pawb sy’n gweld Cymru fel eu cartre’, dim ots o ble maen nhw’n dod yn wreiddiol, yn cael eu croesawu i’r mudiadau yma fel bo ni i gyd yn gweithio tuag at ddyfodol gwell.”
Mwy o gefnogaeth na’r disgwyl
Tra bod 5,200 o bobol wedi llwyddo i gyrraedd y dref, roedd sôn ar y cyfryngau cymdeithasol fod cannoedd yn rhagor wedi methu mynd ar drenau i Ferthyr oedd wedi’u gorlenwi.
Yn eu plith roedd un o’r siaradwyr yn y rali, Yasmin Begum, oedd wedi gorfod tynnu’n ôl ar y funud olaf o ganlyniad i’r trafferthion.
Yn ôl Phyl Griffiths, doedd y trefnwyr ddim wedi disgwyl cymaint o ddiddordeb a chynifer o bobol yn dymuno cymryd rhan yn y diwrnod.
“Ar un llaw, wrth gwrs, roedd e’n newyddion oedd wedi dod yn sioc pan glywon ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol fod pobol yn sownd yng Nghaerdydd a ddim yn gallu mynd ar y trenau.
“Roedd ffrindiau gyda fi wedi cysylltu ddoe yn ymddiheuro bo nhw’n ffaelu dod am y rheswm yna.
“Yn sicr, do’n ni ddim wedi rhagweld y broblem oherwydd, er i ni drio perswadio pobol i adael eu ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosib, do’n ni ddim wedi gweld bod hynny’n mynd i ddigwydd i’r fath raddau.”
… ac ambell siaradwr annisgwyl
Tra bod y niferoedd yn sioc i’r trefnwyr, roedd yna syrpreis hefyd pan wnaethon nhw gadarnhau y byddai Eddie Butler, y sylwebydd rygbi, ymhlith y siaradwyr.
Mae Phyl Griffiths o’r farn fod denu cefnogaeth pobol o’r fath yn hollbwysig i’r mudiad ac i’r ymgyrch.
“Fi’n credu bod cael rhywun fel Eddie yn cefnogi’r achos yn amhrisiadwy.
“Wi wedi sylwi nawr ar Twitter fod Brian Moore, cyn-chwaraewr Lloegr a’r sylwebydd, wedi ymateb i hynny.
“Mae’r ffaith fod Eddie wedi siarad dros yr achos yn siŵr o ddenu mwy o selebs i ddechrau meddwl ac edrych o ddifri ar gwestiwn annibyniaeth.
“Ro’n i’n bles iawn gyda’r amrywiaeth o siaradwyr oedd gyda ni, o gefndiroed gwahanol hefyd.”
Beth nesaf i Ferthyr ac i’r mudiad?
Ar ôl yr orymdaith, fe fydd y trefnwyr yn pwyso a mesur y digwyddiad ac yn trosglwyddo dogfen wybodaeth i drefnwyr yr orymdaith nesaf, gyda’r dyfalu’n parhau ym mle fydd honno.
Ymhlith y lleoliadau sy’n cael eu crybwyll ar gyfer y flwyddyn nesaf mae Wrecsam a Chasnewydd, yn ogystal â dychwelyd i Gaerdydd.
“Byddwn ni’n cwrdd nos Fawrth i drafod beth ddigwyddodd, a bydd y ddogfen yn cael ei rhoi i’r ardal nesaf fydd yn cynnal yr orymdaith nesaf flwyddyn nesaf,” meddai Phyl Griffiths.
“Bydd digonedd o amser gyda nhw i bori drwyddi wedyn.
“Mae wedi bod yn declyn recriwtio hynod effeithiol, ond dydyn ni ddim yn mynd i guddio.
“Dyw e ddim fel bo ni’n mynd nôl i gysgu nawr na gorwedd nôl nawr bo ni wedi cyrraedd y brig a sdim unman arall i fynd.
“Beth ry’n ni’n mynd i’w wneud yw ymgysylltu â’r busnesau a’r unigolion oedd yn gefnogol iawn i’r digwyddiad yma i weld sut allwn ni ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth, a hyrwyddo’u busnesau nhw fel bo ni’n symud ymlaen gyda’n gilydd.
“Ry’n ni’n sôn am ddigwyddiadau codi sbwriel yn yr ardal, a gweithio gyda’r gymuned eto a thyfu’r gangen yn fwy na dim byd arall.”