Mae’r gwaith o adfer cymunedau ledled Canada a’r Unol Daleithiau ar y gweill yn dilyn storm Dorian.
Fe fu cannoedd o filoedd o bobol heb drydan mewn rhannau helaeth o Ganada, lle mae oddeutu 700 o filwyr yn helpu’r ymdrechion i godi cymunedau’n ôl ar eu traed eto.
Collodd dros 400,000 o bobol drydan yn Nova Scotia pan oedd y storm ar ei gwaethaf, gydag 80% o fusnesau a chartrefi’r dalaith yn y tywyllwch.
Gallai rhai pobol yno fod heb drydan am rai diwrnodau eto.
Doedd gan oddeutu 75% o gartrefi a busnesau Prince Edward Island ddim trydan erbyn prynhawn ddoe (dydd Sul, Medi 8), ac roedd tua 80,000 o gwmseriaid wedi’u heffeithio yn rhannau deheuol New Brunswick.
Y tu hwnt i hynny, mae cryn ddifrod yn y Bahamas, lle cyrhaeddodd gwyntoedd gyflymdra o 185 milltir yr awr ar eu hanterth, gyda miloedd o gartrefi wedi cael eu dinistrio.
Mae awyrennau a llongau hefyd wedi bod yn symud pobol oddi ar ynysoedd Abaco, lle mae’r awdurdodau’n dal i geisio cyrraedd rhai mannau anghysbell.
Mae asiantaeth argyfwng yn anfon rhagor o weithwyr i rai ardaloedd i helpu staff sydd wedi cael eu llesteirio gan y tywydd, ac mae llochesi wedi cael eu hagor ar gyfer pobol ddigartref y Bahamas, lle mae 44 o bobol wedi marw.
Mae pump o bobol wedi marw yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau, ac un arall yn Puerto Rico.