Fe fu’r gwasanaeth tân yn ymdrin â sawl tân bach mewn adeilad hanesyddol yn Abertawe neithiwr (nos Sul, Medi 8).

Cawson nhw eu galw i Theatr y Palace ar y Stryd Fawr toc cyn 7 o’r gloch yn dilyn adroddiadau bod mwg yn dod o’r to a nifer o ffenestri ar y llawr gwaelod a’r pedwerydd llawr.

Fe fu’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans ar y safle am rai oriau, ac fe fu’n rhaid cau sawl heol yn yr ardal, ond chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Roedd y tanau dan reolaeth erbyn tua 9.20yh.

Hanes yr adeilad

Agorodd y theatr ei drysau am y tro cyntaf yn 1888 fel neuadd gerddoriaeth (music hall), ac mae’n un o ddim ond dwy neuadd gerddoriaeth bwrpasol sy’n dal yn sefyll yng ngwledydd Prydain.

Ymhlith ei pherfformwyr cyntaf roedd Charlie Chaplin, Marie Lloyd a Lilly Langtry.

Fe ddaeth yn theatr draddodiadol yn y 1920au, ac yn sinema yn ystod y 1930au.

Yn y 1960au, ar lwyfan y theatr hon y perfformiodd Anthony Hopkins am y tro cyntaf, ac roedd Ken Dodd a Morecambe and Wise ymhlith ei pherfformwyr olaf cyn iddi ddod yn glwb nos erbyn y 1970au.

Cynnal a chadw’r adeilad

Dros y blynyddoedd diwethaf, fe fu ymdrechion i adfer yr adeilad rhestredig ond fe fu pryderon ers 2013 y byddai’r gwaith yn rhy gostus.

Roedd adroddiadau y gallai gostio hyd at £1m i’w gwblhau.

Yn fwyaf diweddar, fe fu cryn drafod am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yr ardal, ac mae’r theatr yn wynebu dyfodol ansicr.