Mae’r pedwerydd ymgeisydd yn y ras ar gyfer enwebiad seneddol Plaid Cymru ym Môn yn etholiad nesaf San Steffan yn dweud ei fod yn “deall Ynys Môn, ei phobl a’i hanghenion i’r dim”.
Mae Carwyn Elias Jones, sy’n cynrychioli ward Seiriol ar Gyngor Sir yr ynys, yn herio Aled ap Dafydd, Carmen Ria Smith a Vaughan Williams ar gyfer yr enwebiad i gynrychioli Plaid Cymru.
Mae’n dweud wrth golwg360 ei fod yn sefyll “ar ôl cryn feddwl”.
Bywyd a gyrfa
Cafodd Carwyn Elias Jones ei eni a’i fagu ym Môn, gan dreulio’i flynyddoedd cynnar ar fferm Ysgellog yn Rhosgoch ac yn Rhos Owen, Porthaethwy.
Cafodd ei addysg yn Ysgol y Borth, Ysgol David Hughes a Choleg Pencraig yn Llangefni, cyn graddio mewn Busnes a Rheolaeth ac yna Dystysgrif Addysg i Raddedigion.
Mae’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Ynys Môn ers 2013, lle mae’n ddeilydd portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu’r Economi.
Mae’n ŵr i Rhian, ac yn dad i dri o blant, Eli, Morgan ac Osian.
Mae ei wraig yn llywodraethwr yn Ysgol y Borth, ac yntau’n Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llandegfan, ac yn aelod o Gorff Ysgol Uwchradd David Hughes.
Fe fu’n ddarlithydd Astudiaethau Busnes ac yn arbenigwr manwerthu gyda chwmni JJB Sports.
Mae wedi sefyll mewn dau etholiad ar gyfer y Cyngor Sir, gan gynyddu’r bleidlais i Blaid Cymru o 40% i 1,355.
Roedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch i achub cartref preswyl Haulfre ar yr ynys yn 2015.
‘Mae Ynys Môn yn hoffi ei phobol’
“Rwyf yn deall Ynys Môn, ei phobol a’i hanghenion i’r dim ac mae gennyf rwydwaith eang ar draws yr ynys,” meddai.
“Mae Ynys Môn yn hoffi ei phobol ac mae cael y person cywir i gael y gefnogaeth bersonol yn hynod o bwysig.”
“Rwy wedi profi fod gennyf sgiliau cyfathrebu o’r radd flaenaf ac rwyf yn hyderus ar bob lefel.
“Rwyf yn falch iawn o fy nghyfraniad fel darlithydd i fywydau cannoedd o bobol ifanc Ynys Môn dros y blynyddoedd a hefyd i staff Coleg Menai fel y Cadeirydd Undeb (UCU).
“Mae bod yn aelod etholedig yn ymrwymiad mawr ac rwyf wedi profi ers 2013 fy mod yn gydwybodol iawn, ac yn gallu cael barn drosodd mewn ffordd gref ond parchus iawn bob amser yn y siambr a thu hwnt.
“Fel Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn, rwy’n angerddol iawn am sicrhau cyfleoedd gwaith i’n pobl ifanc allu aros ar ein Ynys hardd i fyw eu bywydau fel yr wyf wedi cael y cyfle i wneud, a gyda thri o blant ifanc, mae hyn mor bwysig i mi.
“Fel Cynghorydd Sir ac Aelod o Gabinet Cyngor Môn, rwyf yn falch iawn o chwarae rôl flaengar mewn sicrhau buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi cael wario ar draws Ynys Môn.”
‘Amseroedd di-gynsail i’r ynys’
Mae’n dweud bod Ynys Môn “mewn amseroedd di-gynsail”.
“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr ar Ynys Môn yw aelod etholedig profiadol a gweithgar ar draws yr etholaeth gyfan sydd wedi profi y gallu i wneud ei orau dros ein hynys hardd, sydd yn annwyl i ni.
“Byddaf yn Aelod Seneddol gyda gweledigaeth ac agwedd bositif a fydd yn edrych am ganlyniad cadarnhaol bob amser i Ynys Môn a’i phobol.”