Mae 15 o bobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau’n ymwneud â gwerthu cyffuriau ar ôl cyrch o dan arweiniad Heddlu Gogledd Cymru dros y dyddiau diwethaf.
Fe fydd y 12 dyn a’r 3 merch yn ymddangos gerbron ynadon yn yr Wyddgrug ac yn Llandudno y bore yma, lle bydd yr heddlu’n gwneud cais i’w cadw yn y ddalfa.
Mae dau o’r dynion wedi cael eu cyhuddo hefyd o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol.
Fe fu dros 300 o blismyn yn chwilio 24 o leoliadau yng ngogledd Cymru, Glannau Mersi a’r Alban i geisio dal rhai sy’n gyfrifol am gynhyrchu, dosbarthu a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.
Roedden nhw’n canolbwyntio’n benodol ar bobl sydd o dan amheuaeth o fod yn rhan o’r ‘County Lines’ ac o ymwneud â throseddu difrifol dros ardaloedd eang.
Roedd 16 wedi cael eu harestio ddydd Iau a chafodd 15 eu cyhuddo neithiwr wedi cyfres o gyfweliadau.
Fe fydd wyth o’r 15 yn ymddangos gerbron ynadon yr Wyddgrug, a’r saith arall gerbron ynadon Llandudno.