Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ‘Samariad trugarog’ a helpodd hen wraig a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar yn Llangollen dair wythnos yn ôl.
Y dyn a’r ddynes oedd y cyntaf i roi cymorth cyntaf iddi pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhyngddi a char Kia du am 9.40 fore Iau 15 Awst ar Stryd y Castell yn y dref.
Meddai Pc Emma Birrell o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru:
“Rydym yn awyddus i adnabod dau dyst a allai helpu’n hymchwiliad.
“Efallai eu bod ar drip diwrnod neu ar wyliau yn yr ardal, felly rydym yn chwilio am help i’w hadnabod.”
Aed â’r hen wraig 87 oed, a oedd yn byw yn lleol, mewn hofrennydd i ysbyty Stoke lle bu farw’n ddiweddarach o’i hanafiadau.