Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo ar ôl i’r awdurdodau ddod o hyd i lwyth o gocên – gwerth tua £60m ar y stryd – ar gwch hwylio ger Abergwaun.

Fe gafodd Gary Swift, 53, a Scott Kilgour, 41, eu harestio ar fwrdd y cwch ddydd Mawrth (Awst 27), ac fe ymddangosodd y ddau gerbron Llys Ynadon Hwlffordd heddiw wedi eu cyhuddo o gynllwyno i fewnforio cocên.

Bydd y ddau o Lerpwl yn cael eu cadw yn y ddalfa tan ddiwedd yr wythnos pan fyddan nhw’n mynd o flaen eu gwell yn Llys y Goron Abertawe.

Mae’r pedwar person arall a gafodd eu harestio yn ardaloedd Lerpwl a Loughborough, sef tri dyn, 23, 31 a 47, yn ogystal â dynes, 30, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Medi.

Darganfyddiad hanesyddol

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA), fe gafodd cyfanswm o 750kg o gocên ei ganfod ar fwrdd y cwch, ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r darganfyddiadau mwyaf erioed o gyffuriau yng ngwledydd Prydain.

Fe gafodd y cwch ei feddiannu bron i filltir oddi ar arfordir Sir Benfro cyn cael ei symud i borthladd Abergwaun, lle bu swyddogion yn ei archwilio.

Dywed Craig Naylor, dirprwy gyfarwyddwr ymchwiliadau’r NCA, fod y cyrch yn rhan o ymchwiliad “hirdymor” a fu’n canolbwyntio ar y modd y mae cyffuriau Dosbarth A yn cael eu mewnforio i wledydd Prydain o Dde America.