Mae cyn-bêl droediwr Cymru a Lerpwl, Dean Saunders, wedi cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl treulio dim ond diwrnod yno.
Fe gafodd y gŵr, 55, ei ddedfrydu i ddeg wythnos o garchar yn Llys Ynadon Caer ddoe (dydd Mercher, Awst 28) am wrthod â gwneud prawf anadl pan gafodd ei stopio gan yr heddlu.
Roedd swyddogion wedi ei atal ar ôl ei weld yn gyrru’n beryglus ar y ffordd yn ystod oriau mân y bore ar Fai 10 yn ardal Boughton, ger Caer.
Yn ôl y cyn-chwaraewr, a chwaraeodd i Gymru 75 o weithiau yn ei ddydd, roedd wedi yfed tri pheint yn Rasys Caer cyn gyrru ei Audi A8.
Mae Dean Saunders bellach wedi cael ei ryddhau ar ôl i’w gyfreithwyr gyflwyno cais am fechnïaeth.
Fe gytunodd y barnwr i’w ryddhau tan Hydref 4, pan fydd yn cael cyfle i apelio yn erbyn ei ddedfryd.
Does dim amodau ynghlwm â’r fechnïaeth, meddai cyfreithiwr Dean Saunders.