Mae pedwar person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth llanc ifanc yn y Barri.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal y dociau am tua 5.50yb ddoe (dydd Mercher, Awst 28) ar ôl i gorff gael ei ganfod yno.

Mae’r corff bellach wedi cael ei adnabod fel un Harry Baker, 17, o Gaerdydd.

Mae’r pedwar sy’n cael eu hamau o’i lofruddio yn cynnwys tri dyn, 33, 36 a 47, o’r Barri, yn ogystal â dynes, 38, o Sir Gaerfyrddin.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod nhw wrthi’n cynnal ymholiadau yn yr ardal, a bod rhai mannau yn dal i fod ynghau i’r cyhoedd.

Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.