Mae cynhyrchiant ceir wedi gostwng 20.1% yng ngwledydd Prydain yn hanner cyntaf 2019.

Daw hyn yn oherwydd y llai o alw sydd am geir o farchnadoedd byd-eang oherwydd pryderon ynghylch Brexit heb gytundeb, mae corff diwydiannol yn dweud.

Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn mae’r cynhyrchiant wedi gostwng o un rhan o bump i gymharu â’r un cyfnod yn 2018 meddai cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron.

Mae’r corff wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n nodi bod dros £330m wedi cael ei wario ar y sector ar gyfer paratoadau am Brexit heb gytundeb.

Mae’r arian wedi mynd at stocio deunyddiau, sicrhau safleoedd, yswiriant ychwanegol a hyfforddiant mewn gweithdrefnau tollau newydd.

Adeiladwyd 168,052 yn llai o geir yn ffatrïoedd yng ngwledydd Prydain yn y flwyddyn hyd yma, gyda’r galw gartref a thramor yn gostwng o ddwbl.

Mae gweithgynhyrchu ar gyfer prynwyr domestig wedi gostwng 16.4%, tra bod archebion tramor wedi gostwng 21%.